Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Rhagfyr 2012

 

 

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Trosedd a Llysoedd

 

 

Cefndir

 

 1.      Ar 6 Hydref 2012, cyflwynodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yr hysbysiad a ganlyn ynghylch cynnig:

 

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd a Llysoedd sy’n diwygio adran 33B o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

2.       Trafododd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol ar 13 Tachwedd 2012, a chytunodd i’w gyfeirio at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (“y Pwyllgor”) er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 10 Ionawr 2013, er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2013. 

 

Y Bil

 

3.       Cyflwynwyd y Bil Trosedd a Llysoedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 10 Mai 2012 gan yr Arglwydd Henley, y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref ar y pryd.  Cwblhaodd y Bil ei daith drwy DŷArglwyddi ar 18 Rhagfyr 2012 a disgwylir iddo gael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 14 Ionawr 2013. 

 

4.       Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Bil fel y’i cyflwynwyd yn cynnwys yr eglurhad a ganlyn ynghylch cymhwysiad tiriogaethol y Bil:

 

“45.   With the exception of certain provisions in Part 2 which extend to England and Wales only and clause 27 and Schedule 15 (drugs and driving) which extend to Great Britain, the Bill extends to the whole of the United Kingdom. In relation to Wales the provisions relate to non-devolved matters. In relation to Scotland and Northern Ireland the Bill addresses both devolved and non-devolved matters.”[1]

 

5.       Mae’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn deillio o’r gwelliannau a wnaed i’r Bil yn ystod y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi.  Mae paragraff 4 o’r Memorandwm yn crynhoi’r Bil a’i amcanion polisi. Nid yw’r eglurhad yn fanwl iawn oherwydd, heblaw am yr agwedd fechan sy’n destun i’r Memorandwm, nid yw cynnwys y Bil wedi’i ddatganoli. 

 

Cymhwysedd Deddfwriaethol

 

6.       Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod darpariaethau yn ymwneud â’r hyn a ganlyn: “one or more of the subjects listed under any of the headings in Part 1 of Schedule 7 and does not fall within any of the exceptions…”. Mae’r Gweinidog wedi nodi pennawd 6 (Amgylchedd) fel y pennawd perthnasol.  O dan y pennawd hwnnw, mae’r pynciau perthnasol yn cynnwys diogelwch amgylcheddol, gan gynnwys llygredd, achosion o beri niwsans a sylweddau peryglus. Nid oes eithriadau perthnasol o dan y pennawd ‘Amgylchedd’. Nid yw’r ffaith bod darpariaethau’r Bil yn ymwneud â chyfraith ac achosion troseddol o reidrwydd yn golygu eu bod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad os oes darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad o dan ‘Amgylchedd’.

 

Y Memorandwm Cydsyniad

 

7.       Mae’r Memorandwm yn ceisio egluro effaith darpariaethau perthnasol y Bil. Yn anffodus, nid yw’n rhoi unrhyw arwydd o ble y gellir canfod y darpariaethau hynny. Mewn gwirionedd, mae’r darpariaethau yn Rhan 3 o Atodlen 16 i’r Bil.

 

8.       Cafodd y darpariaethau o dan sylw eu cynnwys mewn gwelliant a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn ystod y Cyfnod Pwyllgor, ac felly ni chyfeiriwyd atynt yn y Nodiadau Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil wrth ei gyflwyno.  Yr unig wybodaeth sydd ar gael am y bwriad y tu ôl i’r gwelliannau, felly, yw’r sylwadau cryno a wnaed gan y Gweinidog (Yr Arglwydd McNally) wrth gynnig y gwelliant yn y Pwyllgor:

 

“Part 3 of the new schedule removes the current £5,000 cap on a single compensation order that applies in the magistrates' courts for adult offenders. The Government are committed to ensuring that as many victims as possible receive financial compensation from their offender. This change will give magistrates greater flexibility to impose appropriate levels of compensation in cases where significant harm may have been involved; for example, in environmental offences or criminal damage offences.”

 

9.       Mae’r Memorandwm yn egluro bod adran 131 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000[2] i gael ei diwygio er mwyn cael gwared ar y terfyn o £5,000 mewn perthynas ag oedolion sydd fel arfer yn gymwys i orchmynion iawndal a wneir gan lysoedd ynadon.  Yn y dyfodol, dyna fydd yr uchafswm arferol ar gyfer y rhai o dan 18 oed yn unig.

 

10.     Mae’r gwelliant hwnnw yn arwain at welliant ôl-ddilynol i adran 33B(5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n adran sy’n ymwneud â phwnc a ddaw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  Y gwelliant i’r adran honno yw cynnwys y geiriau “in case of young offender” fel a ganlyn:

 

“(5)    Subject to subsection (6) below, in relation to the costs referred to in subsection (2) above, the reference in section 131(1) of the Powers of Criminal Courts (Sentencing) Act 2000 (limit on amount payable in case of young offender) to £5000 is instead to be construed as a reference to the amount of those costs (or, if the costs have not yet been incurred, the likely amount).”

 

11.     Mae adran 33B(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd yn darparu bod y golled neu’r difrod a allai fod yn destun gorchymyn iawndal yn cynnwys costau a dalwyd neu a delir gan berson perthnasol i waredu gwastraff a chymryd camau eraill i ddileu neu leihau canlyniadau adneuo neu waredu’r gwastraff hwnnw.  Mae is-adran (5) yn nodi o dan yr amgylchiadau hynny fod y costau hynny yn disodli’r swm o £5,000 fel terfyn yr iawndal mewn llysoedd ynadon.  Mae cyfyngu’r terfyn hwnnw i droseddwyr o dan 18 oed yn golygu y bydd cyfyngu’r iawndal i ‘gostau glanhau’ ond yn berthnasol i droseddwyr o’r fath.  Fel arall, ni fydd iawndal wedi’i gyfyngu yn y modd hwn.

 

12.     Mae’r gwelliant i adran 33B(5) yn ddibwys yn yr ystyr ei fod ond yn diwygio’r disgrifiad o adran 131 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.  Fodd bynnag, bydd y gwelliant i adran 131 yn caniatáu i lysoedd yng Nghymru osod gorchmynion iawndal mwy sylweddol mewn perthynas â throseddau amgylcheddol a ddaw o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

 

Materion i’w hystyried

 

13.     Gwnaethom ystyried y Memorandwm mewn perthynas â’r Bil Trosedd a Llysoedd yn ein cyfarfod ar 3 Rhagfyr 2012.

 

Casgliad

 

14.     Rydym yn fodlon gyda’r memorandwm ac yn nodi mai diben y gwelliant i adran 131 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 yw rhoi pŵer i lysoedd ynadon i roi mwy o iawndal.  Er bod y gwelliant ôl-ddilynol i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn fach iawn, nid yw’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad mewn perthynas â’r Amgylchedd, ac felly mae’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn briodol. 

 

15. Yn sgîl ein sylw ym mharagraff 7 o’r adroddiad hwn, byddai’n ddefnyddiol pe byddai pob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol yn nodi’n glir a yw’r darpariaethau y mae’n cyfeirio atynt i’w canfod yn y Bil perthnasol.

 

 



[1] Yn dilyn taith y Bil drwy Dŷ’r Arglwyddi, cymal 27 yw cymal 37 ar hyn o bryd ac Atodlen 15 yw Atodlen 18 ar hyn o bryd. 

[2] Cyfeirir ato’n anghywir yn y Memorandwm fel Deddf Pwerau Trosedd a Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000